Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am gyflwyno blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer addysg. Fi yn amlwg sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg yn ehangach, gan weithio gyda holl aelodau'r Cabinet, gan fod y Gymraeg yn rhan o'n gwaith a'n cenhadaeth ni i gyd. Felly, byddaf i'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau addysg heddiw, gan gynnwys yn amlwg addysg Gymraeg, ond byddaf i yn gwneud datganiad pellach—datganiad llafar pellach, felly—ar y Gymraeg cyn yr haf.
Addysg dda yw’r cychwyn gorau y gallwn ni ei roi i’n plant a’n pobl ifanc. Addysg yw’r allwedd i ddatgloi potensial ein cenedl, a dyma pam mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth genedlaethol, i godi safonau yn ein hysgolion a sicrhau'r amodau gorau ar gyfer dysgu ac addysgu.
Mae’r system addysg ar hyn o bryd yn methu gormod o’n plant a’n pobl ifanc. Nid diffyg talent yw’r broblem, na diffyg ymrwymiad. Mae gyda ni blant a phobl ifanc llawn potensial, a gweithlu abl ac ymroddedig. Y broblem yw nad yw’r system gyfan bob amser yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a datgloi potensial ein dysgwyr, nac ychwaith yn rhannu data a dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i sicrhau cynnydd ym mhob ysgol, ym mhob ardal, yn gyson ac yn rymus.
Rydyn ni'n moyn i’r system addysg weithredu fel un system gysylltiedig, i gefnogi’n plant o’r blynyddoedd cynnar tan y pwynt pan maen nhw’n dechrau gweithio. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw codi safonau i bob plentyn ym mhob cymuned. Rwyf am sicrhau bod ein haddysg yn rhoi sylfeini cryf i’n plant a’n pobl ifanc i lwyddo—yn yr ysgol, yn y coleg, mewn gwaith ac mewn bywyd. Mewn pedair blynedd rwyf am sicrhau fod mwy o bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r lefelau uchaf posib o lythrennedd a rhifedd, fod llai o blant yn gadael yr ysgol heb sgiliau sylfaenol, a bod mwy o blant yn llwyddo i gael cymwysterau defnyddiol.
Mae angen hwyluso gwaith ysgolion, awdurdodau lleol a’r dysgwyr eu hunain drwy nodi’n gliriach beth yw ein disgwyliadau ni a rhoi canllawiau cenedlaethol clir i’n hysgolion. Bydd hynny yn rhan ganolog o’r cynllun sylfaenol llythrennedd a rhifedd. Dyma beth mae’n partneriaid ni yn y system addysg wedi gofyn amdano, dyma beth mae rhieni a dysgwyr ei angen. Drwy ei ffocws clir ar lythrennedd a rhifedd, dyma beth mae Estyn hefyd yn ei flaenoriaethu.
Mae gyda ni ddata i adeiladu arno eisoes, ond defnydd annigonol ohono. Byddaf yn amlinellu sut y byddwn ni’n defnyddio’r data yn ein cynllun ni yn y man. Ond rwyf hefyd am i blant feithrin cariad at ddarllen. Mae hwnna'n allweddol bwysig. Felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod llyfrgell gyda ni ym mhob ysgol gynradd yn ystod tymor y Senedd hwn. Rwyf wedi addo i bob ysgol y byddaf yn cysylltu eto gyda nhw cyn diwedd yr haf i ymhelaethu ar ein cynllun ni, a byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Mae hyn yn dod â fi at flaenoriaeth bwysig pellach.
Official English translation
Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Today, I wish to set out this Government's priorities for education. I am also of course responsible for the Welsh language more broadly, working with all members of the Cabinet, as the Welsh language is part of our work and a mission for all of us. Therefore, I'll be focusing on our education priorities today, including of course Welsh education, but I will be making a further statement—an oral statement—on the Welsh language before the summer.
A good education is the best start that we can give our children and young people. Education is the key to unlocking our nation's potential, and that's why this Government has made education a national priority, to raise standards in our schools and ensure the best conditions for learning and teaching.
The education system is currently failing too many of our children and young people. A lack of talent is not the problem, neither is a lack of commitment. We have children and young people who are full of potential, and we have an able and dedicated workforce. The problem is that the whole system hasn't always worked together to support and unlock the potential of our learners, nor do we share data and understanding of what is needed to ensure progress in every school, in every area, consistently and powerfully.
We want the education system to function as one connected system, to support our children from the early years right up to the point where they start working. My first priority is to raise standards for every child, in every community. I want to make sure that our education gives our children and young people strong foundations to succeed—at school, at college, in work and in life. In four years' time, I want to see more young people leave school with the highest possible levels of literacy and numeracy, that fewer children leave school without basic skills, and that more children earn useful qualifications.
There is a need to facilitate the work of schools, local authorities and the learners themselves by stating clearly what our expectations are and giving clear national guidance to our schools. This will form a central part of the literacy and numeracy foundation plan. This is what our partners in the educational system have asked for, that's what parents and learners need. Through its clear focus on literacy and numeracy, that is also what Estyn prioritises.
We already have data to build on, but we don’t make sufficient use of it. I will outline how we will use the data in our plan in due course. I also want children to develop a love of reading. That is very important. So, we will ensure that we have a library in every primary school during this Senedd term. I have promised all schools that I will contact them again before the end of the summer to elaborate on our plan, and I will certainly do that. That brings me to another important priority.