Lywydd, dwi'n cyflwyno'r cynnig ac agor y ddadl ar gyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Y gyllideb atodol yma yw ein cyfle cyntaf i gynnig newidiadau i gyllideb lawn y flwyddyn hon a dechrau'r broses bwysig o sicrhau bod y gwariant yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau fel Llywodraeth newydd. Rŷn ni'n canolbwyntio, felly, ar gyfres wedi'i thargedu o ddyraniadau adnoddau a chyfalaf ychwanegol. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud cynnydd cyflym ar ein blaenoriaethau pwysicaf fel Llywodraeth, gan ddangos hefyd fod arian yn cael ei reoli'n ddarbodus a bod yna sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid.
Law yn llaw â hyn, fel sy'n arferol mewn cyllidebau atodol, mae'r gyllideb yn gwneud addasiadau ffurfiol i'r lefel gyffredinol o adnoddau sydd ar gael i Gymru yn sgil datganiad y gwanwyn a phrif amcanion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae hefyd yn cynnwys ail ddatganiad o gyllideb derfynol eleni i adlewyrchu'r portffolios gweinidogol newydd. Mae cynnig cyllideb atodol gyntaf yn fecanwaith cynnar yn y flwyddyn ariannol i osod yn ffurfiol newidiadau i'r gyllideb flynyddol. Yr ail gyllideb atodol yw'r cyfle olaf i ffurfioli yn derfynol y dyraniadau cyllideb tuag at ddiwedd blwyddyn ariannol.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf yma felly'n gwneud £433 miliwn o ddyraniadau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys £294 miliwn ar gyfer blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a £139 miliwn ar gyfer trosglwyddiadau cyfrifoldeb cyllidebol. Mae balans o £246 miliwn o adnoddau heb eu dyrannu a £29,000 o gyfalaf cyffredinol wedi cael eu cadw wrth gefn yn y gyllideb atodol gyntaf er mwyn rheoli pwysau yn ystod y flwyddyn ac ymateb i flaenoriaethau. Y cyllid hwn heb ei ddyrannu yw ein hamddiffyniad yn erbyn y sefyllfa ariannol rŷn ni wedi ei hetifeddu ac yn erbyn y pwysau ariannol sylweddol sydd heb ei ariannu o fewn y flwyddyn, gan gynnwys cyfanswm o dros £300 miliwn o droswariant y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei adrodd ar hyn o bryd. Mae rheoli'r pwysau hyn yn ystod y flwyddyn ariannol yn her sylweddol, ac mae'r her hon yn anoddach fyth oherwydd y fframwaith ariannol caeth ŷn ni'n gweithredu oddi mewn iddo. Mae'r cyllid adnoddau heb eu dyrannu yna fel arian wrth gefn i'w ddyrannu'n ddiweddarach i helpu i reoli'r pwysau presennol yn y system, os oes angen. Allwn ni ddim dyrannu'r cyllid yna'n gyfan mor gynnar yn y flwyddyn ariannol. Fe wnaeth y Llywodraeth flaenorol ddyraniadau tebyg i'r NHS mewn cyllidebau atodol diwedd blwyddyn: £200 miliwn yn 2025-26, £424 miliwn yn 2023-24.
Mae setliad Llywodraeth Cymru wedi ei gysylltu yn uniongyrchol, fel ŷn ni'n gwybod, gyda phenderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae'n gallu newid, hyd yn oed o fewn blwyddyn, i fyny ac i lawr. Dim ond ychydig ddyddiau ar ôl i fi ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyhoeddi ei chynllun buddsoddi mewn amddiffyn. Mae disgwyl i hynny arwain at ganlyniad negyddol uniongyrchol i'n cyllideb gyfalaf eleni. Os bydd y toriad o 1 y cant a ragwelir yn taro pob adran Lywodraeth yn gyfartal, bydd hynny'n golygu colli rhwng £25 miliwn a £30 miliwn yn syth yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn unig, ac mae mwy i ddod.
Cyllideb atodol yw hon.
Official English translation
Llywydd, I move the motion and open the debate on the Welsh Government's first supplementary budget for 2026-27. This supplementary budget is our first opportunity to propose changes to the full budget this year and to start the important process of ensuring that expenditure aligns with our priorities as a new Government. We are focusing, therefore, on a targeted allocation of resources and additional capital. This will enable us to make swift progress on our most important priorities as a Government, while also demonstrating that money is being managed prudently and that there is stability for public services and partners.
Alongside this, as is usual in supplementary budgets, the budget makes formal adaptations to the general level of funds available to Wales in light of the spring statement and the main objectives of the UK Government for this financial year. It also includes a restatement of this year's final budget to reflect the new ministerial portfolios. Moving a first supplementary budget is an early mechanism in the financial year to set out formally changes to the annual budget. The second supplementary budget is the final opportunity to finally formalise the allocations towards the end of a financial year.
This first supplementary budget therefore makes £433 million of additional allocations. This includes £294 million for Welsh Government priorities, and £139 million for budgetary responsibility transfers. The balance of £246 million in unallocated resources and £29,000 in general capital has been held in reserves in the first supplementary budget in order to manage in-year pressures and to respond to priorities. This unallocated funding is our protection against the financial position that we have inherited and against the significant financial pressures that are unfunded within the year, including a total of over £300 million of overspend that the health service is currently reporting. Managing these in-year pressures is a significant challenge, and that challenge is made more difficult because of the tight funding framework that we work within. The unallocated resources funding is there as reserves to be allocated later to help us manage the current pressures in the system, if necessary. We cannot allocate that funding in its entirety so early in the financial year. The previous Government made similar allocations to the NHS in supplementary budgets at the end of the financial year: £200 million in 2025-26, £424 million in 2023-24.
The Welsh Government's settlement is directly linked, as we know, to decisions made by the UK Government. It can change, even in-year, up and down. Only a few days after I appeared before the Finance Committee, the UK Government announced its defence investment plan. That is expected to lead to a direct negative consequence for our capital budget this year. If the cut of 1 per cent anticipated hits all departments of Government equally, that will mean the loss of between £25 million and £30 million immediately during this financial year alone, and there is more to come.
This is a supplementary budget.