Yn wir, tra dynodwyd Caerdydd yn brifddinas Cymru ar 20 Rhagfyr 1955, 60 mlynedd cyn hynny, ym 1895, pan nad oedd gan Gymru brifddinas, traddodwyd darlith ym Mhenbedw gan Emrys ap Iwan. Cyfle fu hwn iddo wyntyllu ei farn ar ba le yn union y dylai'r brifddinas fod, a’r casgliad oedd mai ym Mhengwern, sydd bellach yn Amwythig. Ac os caf i ei ddyfynnu o:
'fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a Gogledd, sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys,—dyweder, y wlad rhwng yr afon Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan gynnwys Croysoswallt, Pengwern..., a Llwydlo..., trefi oydd yn perthyn unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto.'
Nawr, peidiwch â phoeni, dwi ddim yn awgrymu newid y ffiniau a chymryd Pengwern yn ôl—wel—a dwi’n siŵr y byddai cyfeillion yng Nghaerdydd ddim am iddi golli statws prifddinas, ond pery pwysigrwydd yr ardal yma. Yn economaidd, gwelwn deuluoedd ifanc yn symud o gefn gwlad Maldwyn i Groesoswallt, Amwythig a phentrefi’r ffin i gael tai, gwaith a chyfleoedd newydd. Ac, wrth gwrs, mae gweddill Powys yn ddibynnol ar wasanaethau allweddol ysbytai Gobowen ac Amwythig—fel y tystiais yr wythnos diwethaf—sydd nid yn unig yn denu cleifion, ond yn denu staff sy’n siaradwyr Cymraeg o bell ac agos. Mae’r ardal hyd yn oed o fewn dalgylch Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027.
Wythnos nesaf, bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan y Llywodraeth flaenorol, yn cynnal cyfarfod yng Nghroesoswallt wrth baratoi ei adroddiad ar y Gymraeg y tu allan i Gymru, gan ganolbwyntio ar y Gymraeg yn sir Amwythig, yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Loegr a’r byd.
Mae’r wladwriaeth Brydeinig—yr un mai rhai yn ymhyfrydu ynddi—yn llofnodwr i siarter Ewrop. Mae Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop yn gytundeb gan Gyngor Ewrop sy'n anelu at amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol a siaredir yn draddodiadol mewn gwladwriaethau sy'n bartïon ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Mae'r siarter, ynghyd â'r confensiwn fframwaith ar gyfer diogelu lleiafrifoedd cenedlaethol, yn tystio i ymrwymiad hirdymor Cyngor Ewrop i amddiffyn lleiafrifoedd cenedlaethol. Mae ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Ewrop, ac mae eu diogelu a'u hyrwyddo yn cyfrannu at adeiladu Ewrop sy'n seiliedig ar ddemocratiaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol.
Mabwysiadwyd y siarter, a luniwyd ar sail testun a gynigiwyd gan Gynhadledd Sefydlog Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Ewrop, fel confensiwn gan Bwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop ym mis Mehefin 1992, ac fe'i arwyddwyd ym mis Tachwedd 1992 yn Strasbwrg. Daeth i rym ym 1998. Mae pwyllgor o arbenigwyr annibynnol yn monitro gweithrediad y siarter. Ar 28 Tachwedd 2018, mabwysiadodd y dirprwyon newidiadau i weithrediad ei fecanwaith monitro er mwyn ei gryfhau, a daeth y rhain i rym ym mis Gorffennaf 2019.
Bwriad y siarter yw amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ac annog eu defnydd mewn bywyd cyhoeddus a phreifat. Felly, mae'n rhwymo gwladwriaethau—Prydain, yn y cyd-destun hwn—sy'n bartïon i hyrwyddo'n weithredol y defnydd o'r ieithoedd hyn mewn addysg, cyfiawnder, gweinyddiaeth, y cyfryngau, diwylliant, bywyd economaidd a chymdeithasol, a chydweithrediad trawsffiniol. Felly, mae'r siarter yn mynd y tu hwnt i amddiffyn lleiafrifoedd a'r frwydr yn erbyn gwahaniaethu, gan ei gwneud yn ofynnol i’r gwladwriaethau sy'n bartïon hefyd gymryd camau i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol yn weithredol. Mae Cyngor Ewrop yn sicrhau bod y siarter yn cael ei weithredu'n ymarferol.
Mae pwyslais y siarter ar diriogaeth draddodiadol yr iaith, a dyma yw’r achos yn y rhannau o sir Amwythig o dan sylw. Mae sawl gwladwriaeth yn estyn y siarter y tu hwnt i’r ffiniau gweinyddol presennol o fewn y wladwriaeth. Nid yw ffin Cymru-Lloegr yn rheswm dros beidio â chynnwys y Gymraeg yn sir Amwythig o dan y siarter. Ffin fewnol o fewn yr un wladwriaeth ydyw yn llygaid y siarter. Dan gyfraith ryngwladol, mae dyletswyddau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol dan siarter Ewrop, ac mae hyn yn cynnwys dyletswyddau sy’n weithredol tu allan i Gymru. Dan erthygl 7.3, mae dyletswydd ledled y deyrnas i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth ieithyddol, gan ddefnyddio addysg a’r cyfryngau torfol i’r diben hwnnw. Hefyd, mewn perthynas â’r Gymraeg, mae’r Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i erthygl 13.2, sy’n gosod dyletswydd arni i gefnogi’r Gymraeg y tu allan i Gymru. Er hynny, bob tro mae yna gais neu ddymuniad i gael mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys, mae yna ffys, stŵr, gwrthwynebiad. Mae teuluoedd yn gorfod apelio, cwyno, herio penderfyniadau swyddogion a chael cymorth mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg a gwthio yn erbyn sefydliadau sydd ddim yn deall.
Gadewch inni fod yn uchelgeisiol. Gadewch inni hwyluso mynediad at addysg Gymraeg ymhobman. Gadewch inni fod o ddifri am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Gadewch inni ddatgan yn glir fod dwyieithrwydd yn rhywbeth i’w groesawu a’n bod yn croesawu’r siaradwyr newydd ac yn croesawu’r rhai hynny sy’n digwydd byw dros y ffin ond sydd am ailafael yn neu gael mynediad at eu treftadaeth. Mae llwyddiant diweddar Ysgol Gymraeg y Trallwng yn esiampl wych, efo niferoedd ar gynnydd a cheisiadau yn dod o Lanymynech a Phant, sydd dros y ffin. Efo lle i 150 o ddisgyblion, mi fydd yn llawn fis Medi yma. Gwn am eraill sy’n byw yng Nghroesoswallt sy’n teithio’n ddyddiol i ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond dim ond ar ôl gorfod ymgyrchu. O sicrhau mynediad hwylus, didrafferth, yn ddi-os cynyddu fydd y diddordeb.
Felly, gofyn ydw i, Weinidog, am degwch, ac i'r Gweinidog weithio efo Cyngor Sir Powys, ac Amwythig, os oes angen, i sicrhau tri cham gweithredol: yn gyntaf, sicrhau bod modd i bobl ifanc gael mynediad didrafferth, di-lol a chludiant rhwydd a hwylus at addysg Gymraeg fel norm, os ydynt yn byw dros y ffin; sicrhau estyniad i Ysgol Gymraeg y Trallwng, fel yr agosaf at y ffin, i adlewyrchu’r twf a’r brwdfrydedd lleol; a sicrhau cynllun gweithredu clir pum mlynedd i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn nhalgylch Ysgol Llanfyllin. Yn yr un modd ag y mae’r Llywodraeth yn helpu Ysgol Gymraeg Llundain a’r Cyngor Prydeinig yn buddsoddi ym Mhatagonia, dylid helpu cyngor Powys a’r teuluoedd i alluogi mynediad at addysg Gymraeg ar hyd y ffin.
Mae cynsail i gynnwys y Gymraeg yn sir Amwythig. Yn Nhachwedd 2025, cadarnhawyd bwriad y Deyrnas Gyfunol, yn dilyn ymgyrch gan Gyngor Cernyw ac eraill, i newid sefyllfa bresennol y Gernyweg yn y siarter a’i rhoi yn Rhan III o’r siarter, sy’n golygu bod yn rhaid cyflwyno 35 mesur penodol mewn meysydd fel addysg, y cyfryngau, gweinyddiaeth ac ati. Hyd hynny, bu'r Gernyweg yn iaith o dan Ran II yn unig. Ac o weithredu yn gadarnhaol, fel yn nyddiau Heledd pan fu’n rhaid iddi fudo o Bengwern i gastell newydd Mathrafal ger Meifod, bydd modd i siaradwyr Cymraeg y ganrif yma fudo o’r hyn yw sir Amwythig heddiw i gestyll addysgol Powys. Diolch yn fawr.
Official English translation
Indeed, while Cardiff was designated as the capital city of Wales on 20 December 1955, 60 years before that, in 1895, when Wales did not have a capital city, a lecture was given in Birkenhead by Emrys ap Iwan. This was an opportunity for him to air his views on exactly where the capital should be, and his conclusion was that it should be in Pengwern, which is now Shrewsbury. And if I could quote him:
The capital city should be close to the contiguous South and North, namely within the state formerly known as Powys—say, the land between the River Mawddach and the River Ystwyth, and from between them towards the east, including Oswestry, Shrewsbury and Ludlow, towns that once belonged to the province of Powys, and should still belong to it.
Now, don't be alarmed, I'm not suggesting changing the borders and taking back Shrewsbury—well—and I'm sure that my friends in Cardiff wouldn't want to lose their capital city status either, but the importance of this area remains. Economically, we see young families moving from rural Montgomeryshire to Oswestry, Shrewsbury and the border villages to get work, housing and new opportunities. And, of course, the remainder of Powys is dependent on key services provided by Gobowen and Shrewsbury hospitals—as I witnessed last week—which don’t just attract patients, but also Welsh-speaking staff from far and wide. The area is even within the catchment area for the Maldwyn Meirionnydd Eisteddfod in 2027.
The Commission for Welsh-speaking Communities, established by the previous Government, will hold a meeting in Oswestry next week while preparing its report on the Welsh language outside of Wales, focusing on the Welsh language in Shropshire, as well as in other parts of England and the world.
The British state—a state in which some rejoice—is a signatory to the European charter. The European Charter for Regional or Minority Languages is an agreement by the Council of Europe that seeks to protect and promote regional and minority languages traditionally spoken in the states parties in all aspects of public life. The charter, together with the framework convention for the protection of national minorities, attests to the long-term commitment of the Council of Europe to the protection of national minorities. Regional or minority languages are a part of Europe's cultural heritage, and their protection and promotion contribute to building a Europe based on democracy and cultural diversity.
The charter, drawn up on the basis of a text proposed by the Standing Conference of Local and Regional Authorities of Europe, was adopted as a convention by the Committee of Ministers of the Council of Europe in June 1992, and was signed in November 1992 in Strasbourg. It came into force in 1998. A committee of independent experts monitors the implementation of the charter. On 28 November 2018, the deputies adopted changes to the operation of its monitoring mechanism in order to strengthen it. These came into force in July 2019.
The aim of the charter is to protect and promote regional or minority languages and to encourage their use in public and private life. So, it binds states parties—Britain, in this context—to actively promote the use of these languages in education, justice, administration, the media, culture, economic and social life, and cross-border co-operation. Therefore, the charter goes beyond the protection of minorities and the fight against discrimination, by requiring its states parties to also take action to actively promote minority languages. The Council of Europe ensures that the charter is implemented in practice.
The charter emphasises the traditional territory of the language, and this is the case in the parts of Shropshire in question. Several states extend the reach of the charter beyond existing administrative boundaries within the state. The border between Wales and England is no reason to refrain from including the Welsh language in Shropshire under the charter. This is an internal border within the same state in the eyes of the charter. Under international law, there are duties on the UK Government under the European charter, and these include duties that are active outside of Wales. Under article 7.3, there is a duty throughout the UK to promote mutual linguistic understanding, using education and the mass media for that purpose. Also, in relation to the Welsh language, the UK is committed to article 13.2, which places a duty on it to support the Welsh language outside of Wales. However, every time a request is made, or a desire is expressed to have access to Welsh-medium education in Powys, there is fuss, uproar, opposition. Families have to appeal, complain and challenge decisions made by officials and obtain support from RhAG—Parents for Welsh-medium Education—to push back against organisations that don't understand.
Let us be ambitious. Let us facilitate access to Welsh language education everywhere. Let us be serious about the target of 1 million Welsh speakers. Let us state clearly that bilingualism is something to be welcomed and that we welcome the new speakers and welcome those who happen to live across the border but who wish to re-engage with or gain access to their heritage. The recent success of Ysgol Gymraeg y Trallwng in Welshpool is a great example, with numbers increasing and applications coming from Llanymynech and Pant, which are across the border. With space for 150 pupils, it will be full from September. I know of others who live in Oswestry who travel daily to the school in Llanrhaeadr-ym-Mochnant, but only after having had to campaign. By ensuring easy and trouble-free access, levels of interest will surely increase.
So, I am seeking fairness, Minister, and for the Minister to work with Powys County Council, and Shropshire, if necessary, to ensure three concrete actions: first, to ensure that young people can have unimpeded, hassle-free access, along with easy and convenient transport to Welsh-medium education as the norm, if they live across the border; secondly, to ensure the expansion of Ysgol Gymraeg Trallwng, as the closest to the border, to reflect local growth and enthusiasm; and, thirdly, to ensure a clear five-year action plan to expand the provision of Welsh-medium education in the catchment area of Ysgol Llanfyllin. In the same way as the Government helps the London Welsh School and the British Council invests in Patagonia, Powys council and the families should be helped to facilitate access to Welsh language education.
There is a precedent for including the Welsh language in Shropshire. In November 2025, the UK’s intention was confirmed, following a campaign by Cornwall Council and others, to change the current position of Cornish within the charter and place it in Part III of the charter, which means that 35 specific measures must be introduced in areas such as education, the media, administration and so forth. Until then, the Cornish language had been under Part II of the charter only. And if we act positively, as in the days of Heledd, when she had to migrate from Pengwern to the new Mathrafal castle near Meifod, it will be possible for Welsh speakers this century to migrate from what is Shropshire today to the educational castles of Powys. Thank you.