Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i wneud y datganiad yma heddiw i esbonio fy mlaenoriaethau i ar gyfer fy mhortffolio. Mewn wythnos, wrth gwrs, lle'r ydym yn gweld rhybudd tywydd coch am wres am y tro cyntaf yma yng Nghymru, fe hoffwn i ddechrau gyda'n hymrwymiad ni i weithredu ar yr hinsawdd a natur, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd amgylcheddol, sy'n amlwg i bawb, ond hefyd oherwydd ei bwysigrwydd canolog i ffyniant, iechyd a gwydnwch Cymru yn y dyfodol. Nid pethau ychwanegol, dewisol yw aer glân, dŵr glân, priddoedd iach ac ecosystemau ffyniannus. Maen nhw'n cynnal iechyd y cyhoedd, maen nhw'n diogelu cymunedau ac yn creu'r amodau i Gymru ddatblygu'n gynaliadwy.
Mae'r agenda hon yn ymwneud â sicrhau'r cyfleoedd economaidd cadarnhaol a gynigir gan adnoddau naturiol Cymru a'n statws byd-eang fel cenedl ailgylchu. Mae'n ymwneud ag achub ar gyfleoedd economi di-garbon i gefnogi swyddi diogel, ynni cymunedol, cartrefi cynhesach, trafnidiaeth lanach, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a seilwaith gwydn. Dyna pam, yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, rŷn ni eisoes wedi dechrau gweithio ar gynllun gweithredu hinsawdd a natur uchelgeisiol, sy'n canolbwyntio ar lwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050, wedi'i siapio gan y realiti y mae pobl a chymunedau yn eu hwynebu ledled Cymru.
Mae'r realiti hwnnw'n amlwg. Mae ffermwyr, er enghraifft, angen tir sy'n gynhyrchiol ac yn wydn, nid tir sydd o dan ddŵr llifogydd o hyd neu o dan bwysau oherwydd sychder dro ar ôl tro. Dylai plant a theuluoedd hefyd allu mwynhau traethau a moroedd glân. Mae angen mynediad at gadwyni cyflenwi gwydn ar fusnesau. Dylai cenedlaethau'r dyfodol etifeddu Cymru lle mae natur yn ymadfer, nid Cymru lle mae rhywogaethau'n diflannu yn ystod ein hoes ni. Mi fydd y cynllun yn gosod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb ar holl Aelodau'r Cabinet ac ar draws pob portffolio, fel ei fod yn cael ei ymgorffori yn ein penderfyniadau ni ar dai, ar drafnidiaeth, ar ynni, ar iechyd, yr economi, a gwasanaethau cyhoeddus.
Official English translation
Thank you very much, Deputy Llywydd. I'm very pleased to make this statement today to explain my priorities for my portfolio. In a week, of course, where we are experiencing a red weather warning for heat for the first time here in Wales, I'd like to start with our commitment to take action on climate and nature, not only because of its environmental importance, which is clear to all, but also because of its central importance to the future prosperity, health and resilience of Wales in the future. Clean air, clean water, healthy soils and thriving ecosystems are not optional extras. They support public health, they protect communities and create the conditions for Wales to develop sustainably.
This agenda is about delivering on the positive economic opportunities from Wales’s natural resources and our global status as a recycling nation. It's about taking the opportunities of a zero-carbon economy to support secure jobs, community energy, warmer homes, cleaner transport, sustainable food production, and resilient infrastructure. This is why, during our first 100 days, we have already started work on an ambitious climate and nature action plan, focused on a practical pathway to net zero by 2040 and substantive nature recovery by 2050, shaped by the realities people and communities are facing across Wales.
Those realities are clear. Farmers, for example, need land that is productive and resilient, not land that is repeatedly under floodwater or under pressure because of drought time and time again. Children and families also should be able to enjoy clean beaches and seas. Businesses need access to resilient supply chains. Future generations should inherit a Wales where nature is recovering, not one where species are disappearing in our lifetimes. The plan will embed action on climate and nature as Cabinet-level responsibilities across all portfolios, so that it is built into decisions on housing, transport, energy, health, the economy, and public services.